#

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-796

Teitl y ddeiseb: Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Mae lles anifeiliaid (ac eithrio hela ac arbrofi ar anifeiliaid) yn fater datganoledig yng Nghymru.

Ym mis Rhagfyr 2015, dywedodd Rebecca Evans AC (y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar y pryd), “Mae Llywodraeth Cymru o’r farn nad oes unrhyw le i anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau”. 

O dan ei chyfarwyddyd hi, comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad annibynnol a chafwyd tystiolaeth gan dros 600 o arbenigwyr yn y maes. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Gorffennaf 2016, ac roedd y casgliadau’n glir.

Yn ôl yr adroddiad, mae’r dystiolaeth wyddonol yn dangos nad yw syrcasau teithiol sy’n defnyddio anifeiliaid gwyllt yn bodloni’r gofynion lles a nodir o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Mae’r adroddiad hefyd yn datgan “Nid yw bywyd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau a sŵau teithiol yn “fywyd da” nac yn “fywyd sy’n werth ei fyw”.

Ym mis Rhagfyr 2016, dywedodd Lesley Griffiths AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig) fod Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at sefydlu system drwyddedu, debyg i honno sy’n cael ei rhedeg gan Defra yn Lloegr ar hyn o bryd. Dylid nodi bod Llywodraeth y DU wedi rhoi’r system hon ar waith yn 2011 fel mesur dros dro hyd nes y gellid gwahardd yr arfer.

Mae’r dogfennau trwyddedu sydd ar gael i’r cyhoedd eu gweld yn dangos yn glir fod y system drwyddedu hon yn methu yn ei hymdrech i ddiogelu anifeiliaid. Mae’r ddwy syrcas anifeiliaid sydd wedi’u trwyddedu gan Defra ar hyn o bryd wedi torri amodau eu trwyddedau droeon, ac mae eu trwyddedau wedi’u hatal ar ryw adeg neu’i gilydd.

Mewn arolwg a gynhaliwyd gan RSPCA Cymru, roedd 74 y cant o bobl Cymru yn awyddus i’r arfer hwn gael ei wahardd. Cyflwynodd y corff hwn hefyd ddeiseb i Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cymru yn 2015.

Cefndir

Lles anifeiliaid yng Nghymru

Mae gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol ynghylch “iechyd a lles anifeiliaid” yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ni fydd Deddf Cymru 2017 yn newid cymhwysedd y Cynulliad ynghylch lles anifeiliaid.

Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yw’r prif ddarn o ddeddfwriaeth ynghylch lles anifeiliaid yng Nghymru ac mae’n cynnwys y deddfau cyffredinol sy’n ymwneud â lles anifeiliaid. Mae’r ddeddf hefyd yn rhoi ystod o bwerau i Weinidogion Cymru, er enghraifft:

§    adran 12 - gwneud rheoliadau i hyrwyddo lles anifeiliaid;

§    adran 13 - trwyddedu neu gofrestru gweithgareddau sy’n ymwneud ag anifeiliaid; ac

§    adran 16 - gwneud codau ymarfer.

(mae adran 16 yn trafod gwneud neu ddiwygio codau ymarfer gan y Cynulliad).

Fel y nodwyd ar wefan Llywodraeth Cymru, o dan Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoliad) 1925 mae’n rhaid i bobl sy’n arddangos, yn defnyddio neu’n hyfforddi anifail perfformio yng Nghymru fod wedi’u cofrestru gyda’u hawdurdod lleol (nid yw hyn yn berthnasol i hyfforddi ac arddangos anifeiliaid at ddibenion y fyddin neu’r heddlu, nac ar gyfer amaethyddiaeth a chwaraeon). Mae’r ddeddfwriaeth hon yn rhoi pwerau i’r heddlu a’r cynghorau fynd i mewn i adeiladau lle mae anifeiliaid yn cael eu hyfforddi a’u harddangos i wirio bod anifeiliaid yn cael eu cadw o dan amodau addas sy’n bodloni safonau iechyd, lles a diogelwch. Codir dirwy hyd at £2,500 ar gyfer methiant i gofrestru. Os caiff cwyn am greulondeb ei phrofi, gall arwain at wahardd unigolion rhag arddangos neu hyfforddi anifeiliaid perfformio yn y dyfodol.

Lloegr

Yn Lloegr, mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (Lloegr) 2012 yn ei gwneud yn ofynnol i syrcasau teithiol fod â thrwydded i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt.  Mae amodau’r drwydded yn nodi’r gofynion ar gyfer:

§    darparu cynlluniau gofal;

§    rheoli pwy all gael mynediad at yr anifeiliaid;

§    trefnu gofal milfeddygol llawn; a

§    gofynion lles o ran arddangos, hyfforddi a pherfformio, yn ogystal â gofynion ynghylch yr amgylchedd a thrafnidiaeth.

Gwnaed y rheoliadau hyn o dan adran 13 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Cafodd canllawiau (PDF 654KB) eu cyflwyno ym mis Tachwedd 2012 sy’n cynnwys safonau lles anifeiliaid y mae’n rhaid i ddeiliaid trwyddedau gydymffurfio â nhw. Mae rheoliad 1(4) yn cynnwys cymal ‘machlud’ sy’n golygu y bydd effaith y rheoliadau yn dod i ben saith mlynedd ar ôl iddynt ddod i rym.

Mae Llywodraeth y DU ar sawl achlysur wedi trafod camau i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Ar 16 Ebrill 2013, cyhoeddodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) Fil drafft gyda’r bwriad o wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn Lloegr o fis Rhagfyr 2015. Yn ei adroddiad craffu, argymhellodd Pwyllgor Dethol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig fod Llywodraeth y DU yn adolygu cynnwys y Bil, gan awgrymu rhestr o anifeiliaid gwyllt gwaharddedig mewn syrcasau yn hytrach na gwaharddiad llawn. Gwrthodwyd hyn gan Lywodraeth y DU yn ei hymateb. Dywedodd y Pwyllgor hefyd y byddai’n ddymunol i waharddiad o’r fath fod yn gymwys ledled y DU. Cafwyd yr ymateb a ganlyn gan Lywodraeth y DU:

As the Committee is aware. Defra Minister Lord de Mauley wrote to his three counterparts in the Devolved Administrations last November offering to extend the territorial scope of the Bill to their countries. The Government remains committed to working with the Devolved Administrations on reaching a coordinated position on this matter before a Bill is introduced. [...] The Minister for Natural Resources and Food in the Welsh Government, Alun Davies, has already written to Lord de Mauley confirming he would want his officials to work with Defra to produce a Bill that applies to England and Wales.

Ar 20 Chwefror 2017, cafodd Bil Aelod preifat, sef yr Wild Animals in Circuses (Prohibition) Bill 2016-17 ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn ymdrin â Lloegr yn unig, roedd disgwyl i’r Bil gael ei ail ddarlleniad ar 12 Mai 2017. Fodd bynnag, methodd y Bil yn dilyn Etholiad Cyffredinol y DU. Nid oes unrhyw ddeddfwriaeth debyg wedi’i rhestru ar hyn o bryd yn y Biliau gerbron Senedd y DU yn 2017-19, nac yn y Biliau drafft ar gyfer 2017-18. 

 

Camau gweithredu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau wedi cael tipyn o sylw cyhoeddus ac roedd yn destun deiseb flaenorol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad (P-04-653). Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan RSPCA Cymru, ac roedd yn galw am waharddiad ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.  Ymatebodd Rebecca Evans AC, y Dirprwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd ar y pryd, i’r ddeiseb drwy gyhoeddi adolygiad annibynnol o’r dystiolaeth ar les anifeiliaid mewn syrcasau teithiol a sefydlog.  Yn dilyn hyn, cytunodd y Pwyllgor Deisebau i gau’r ddeiseb.

Mae’r mater hefyd yn aml yn destun cwestiynau yn y Cynulliad. Ar 16 Hydref 2017, gofynnodd Siân Gwenllian AC i Lywodraeth Cymru a oes unrhyw rwystrau cyfreithiol presennol sy’n gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru, ac a fyddai’r rhwystrau hyn yn diflannu ym mis Ebrill 2018 (sef y dyddiad cychwyn disgwyliedig ar gyfer nifer o ddarpariaethau Deddf Cymru 2017). Mewn ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig nad oedd unrhyw rwystrau cyfreithiol. Ar 15 Tachwedd 2017, cyflwynodd Steffan Lewis AC gwestiwn ysgrifenedig yn gofyn am ddatganiad ysgrifenedig ar gyflwyno gwaharddiad ar syrcasau sy’n defnyddio anifeiliaid yng Nghymru. Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet:

There is concern the welfare needs of some animals kept by Mobile Animal Exhibits (MAEs), including hawking displays, reindeer at Christmas events and, of course, performing wild animals in circuses cannot be met in a travelling environment.  MAEs are diverse and there is no standard licensing regime or requirement for routine inspection. We must decide whether or not a change of policy and/or the law is required to protect the welfare of animals in MAEs.  A licensing or registraion scheme could improve the welfare of animals in travelling environments and also legitimise businesses operating as MAEs in Wales. 

I recently consulted on the introduction of a licensing or registration scheme for MAEs. The consultation also asked for views on banning the use of wild animals in circuses. Officials are now analysing responses to the consultation, the first on this subject, which will be used to inform the next steps and I will make a statement on this before 15th December.

Details of the outcome of the consultation will be published on the Welsh Government website in due course.

 

Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Adolygiad annibynnol o faterion lles anifeiliaid mewn syrcasau

Fel y nodwyd eisoes, mewn ymateb i ddeiseb flaenorol gan RSPCA Cymru, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o faterion ynghylch lles anifeiliaid mewn syrcasau. Cafodd yr adroddiad yn deillio o’r adolygiad hwn ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2016. Wrth ymchwilio i les (corfforol a meddyliol) anifeiliaid mewn syrcasau teithio, canfu’r adolygiad:

The available scientific evidence indicated that captive wild animals in circuses and other travelling shows do not achieve their optimal welfare requirements, as set out under the Animal Welfare Act 2006, and the evidence would therefore support a ban on using wild animals in travelling circuses and mobile zoos on animal welfare grounds.

Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at arolwg gan yr RSPCA yn 2009 (a ddiweddarwyd yn 2016) a ganfu fod deg awdurdod lleol yng Nghymru wedi gwahardd syrcasau ar eu tir.

Ymgynghoriad ar Arddangosfeydd Teithiol o Anifeiliaid

Mewn datganiad Gweinidogol ar 15 Rhagfyr 2016, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pryd ei bod hi’n awyddus i fynd i’r afael â lles anifeiliaid mewn arddangosfeydd teithiol, gan gynnwys syrcasau. Nododd fod ei swyddogion yn datblygu cynllun trwyddedu neu gofrestru ar gyfer arddangosfeydd teithiol o’r fath a fyddai’n mynd i’r afael â materion arolygu a gorfodi.  Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad (rhwng 17 Gorffennaf a 8 Hydref 2017) ar ddichonoldeb system o’r fath ar gyfer arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid sy’n cynnwys anifeiliaid domestig ac egsotig yng Nghymru. Tynnodd y ddogfen ymgynghori sylw at y sefyllfa a ganlyn yng Nghymru:

Cafodd arolwg casglu data ei gynnal gydag Awdurdodau Lleol yng Nghymru ddechrau 2017 a datgelodd fod o leiaf 53 ADA yng Nghymru. [...]

Ceir amrywiaeth o wahanol fathau o ADA [arddangosfa deithiol o anifeiliaid] ac nid oes trefn drwyddedu safonol na gofyn i gynnal archwiliad rheolaidd. Mae ambell ADA wedi’i chofrestru o dan Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoliad) 1925. Mae hyn yn gofrestriad am oes ac nid oes gofyn penodol ynddi i gynnal archwiliadau. O’r herwydd, mae’n annhebygol bod safonau lles llawer o anifeiliaid perfformio yng Nghymru’n cael eu hasesu.

Mae’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn nodi:

Nid wyf wedi diystyru’r posibilrwydd o wahardd anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio mewn syrcasau yn y dyfodol yng Nghymru, ac rwyf wedi cadw posibilrwydd o barhau i gynnwys hyn mewn unrhyw Fil gan Lywodraeth y DU sy’n cael ei ddatblygu ar y mater hwn.  Fodd bynnag, ni allwn aros am byth i’r posibilrwydd hwnnw godi.

Roedd yr ymgynghoriad, felly, hefyd yn ceisio barn ar wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru.

Cafodd datganiad ysgrifenedig a chrynodeb o’r ymatebion eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar 14 Rhagfyr 2017. Oherwydd bod “y rhan fwyaf o’r ymatebwyr” yn cytuno y dylid cael trefn ar gyfer trwyddedu neu gofrestru arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid (gyda’r mwyafrif yn ffafrio trwyddedu dros gofrestru), mae’r datganiad ysgrifenedig yn nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i swyddogion ddatblygu cynllun trwyddedu o’r fath ar gyfer arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid. Bydd hyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ac asesiad effaith rheoleiddiol.  O ran gwaharddiad, mae’r Crynodeb o Ymatebion yn nodi:

Rhaid cydnabod y teimladau cryfion ymhlith yr ymatebwyr o blaid gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Bydd swyddogion yn para i weithio gyda Defra a’r Gweinyddiaethau Datganoledig i ystyried materion trawsffiniol.

 

Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru

Mae Cynllun Gweithredu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 yn cynnwys dwy garreg filltir allweddol ar gyfer arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid. Yn gyntaf, cynnal ymgynghoriad ar ddichonoldeb cyflwyno cynllun trwyddedu neu gofrestru ar gyfer ADA, a bod yr ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Yn ail, cyflwyno canfyddiadau’r ymgynghoriad cyhoeddus a’r camau nesaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pryd.

Mae’r cynllun gweithredu yn nodi:

O dan Ddeddf Cymru 2017, mae cyfle i ystyried yr opsiwn o wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.

Yr ymateb i’r ddeiseb

Cafwyd ymateb i’r ddeiseb gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 29 Tachwedd 2017. Mae’r ymateb hwn yn ailadrodd y sefyllfa a nodir yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi bod ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i lywio’r camau nesaf o ran cynllun trwyddedu neu gofrestru ar gyfer ADA. Nododd hefyd:

At present there are no circuses based in Wales and I have not dismissed the possibility of working with the UK Government to bring in a joint ban on the use of wild animals in circuses. Officials attend regular meetings with Defra and the Devolved Administrations and are committed to moving this policy area forward.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.